#26 Linda Richards Davies; Cyngor Sir Gar; Gwasanethau Cyhoeddus
Jul 31, 2023 ·
11m 16s
Download and listen anywhere
Download your favorite episodes and enjoy them, wherever you are! Sign up or log in now to access offline listening.
Description
Cyngor Sir Gaerfyrddin yw un o’r awdurdodau unedol mwyaf yng Nghymru, a’r cyflogwr lleol mwyaf gyda thua 8,000 o staff. Mae'r prif adrannau yn cynnwys; y Prif Weithredwr, Cymunedau, Gwasanaethau...
show more
Cyngor Sir Gaerfyrddin yw un o’r awdurdodau unedol mwyaf yng Nghymru, a’r cyflogwr lleol mwyaf gyda thua 8,000 o staff. Mae'r prif adrannau yn cynnwys; y Prif Weithredwr, Cymunedau,
Gwasanaethau Corfforaethol, Addysg a Phlant, Seilwaith ac Adeiladu.
Mae'r Cyngor hefyd yn cynnig cynlluniau ar gyfer prentisiaid. Fel prentis, byddwch yn dysgu sgiliau sy'n berthnasol i'r rôl rydych chi'n hyfforddi i'w gwneud, yn cwblhau cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol ac yn ennill cyflog. Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr profiadol a fydd yn eich cefnogi i ennyn profiad a dysgu am y swydd. Mae yna 5 lefel o brentisiaethau. Mae rhain yn cynnwys: Lefel 2 - Prentisiaeth Sylfaenol, Lefel 3 - Prentisiaeth, Lefel 4/5 - Prentisiaeth Uwch, Lefel 6 - Prentisiaeth Gradd. Mae'r lefel yn dibynnu ar y rôl rydych chi'n ymgeisio amdani. Mae modd i unrhyw un sy'n 16 oed neu'n hŷn ddilyn prentisiaeth, nid oes uchafswm o ran oedran ond mae'n bosibl y bydd rhai cyfyngiadau neu ofynion mynediad eraill yn dibynnu ar y rôl rydych chi'n ymgeisio amdani. Ni fydd angen i chi dalu unrhyw gostau tuag at eich hyfforddiant oherwydd byddwn ni'n talu'r costau.
Mae ein holl rolau, gan gynnwys prentisiaethau a rolau graddedigion yn cael eu hysbysebu ar ein gwefan swyddi, a bydd angen i chi wneud cais ar-lein. Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer cyfrif cyn gwneud eich cais.
Mae profiad gwaith yn rhoi cyfle i chi ddysgu amdanom ni yma yng Nghyngor Sir Caerfyrddin a chael profiad o sut rydym yn gweithio Gall unrhyw un dros 14 oed (blwyddyn 10 yn yr ysgol) wneud cais am brofiad gwaith di-dâl.
show less

Information
Author | Menter Gorllewin Sir Gâr |
Organization | Menter Gorllewin Sir Gâr |
Website | - |
Tags |
-
|
Copyright 2024 - Spreaker Inc. an iHeartMedia Company