Byw Efo Dementia
Download and listen anywhere
Download your favorite episodes and enjoy them, wherever you are! Sign up or log in now to access offline listening.
Description
Yn y podlediad hwn yn y gyfres AM IECHYD, mae'r panelwyr yn trafod pwnc sy'n effeithio ar nifer fawr ohonon ni sef 'Byw efo Dementia'. Cadeirydd y sgwrs ydy Dr...
show moreCadeirydd y sgwrs ydy Dr Catrin Hedd Jones, Darlithydd mewn Astudiaethau Dementia (Cyfrwng Cymraeg) ym Mhrifysgol Bangor ac o gwmpas y bwrdd efo Catrin mae Emma Quaeck (Rheolwr Dementia Actif Gwynedd), Rhian Green (merch i wraig sydd yn byw efo dementia) a Glenda Roberts sydd ei hun yn byw efo dementia.
Mwynhewch y gwrando!
Dyma wybodaeth bellach am rai o'r pwyntiau a thrafodwyd yn ystod y podlediad.
Cwrs Meistr mewn Dementia Bangor
https://www.bangor.ac.uk/cy/courses/postgraduate-taught/astudiaethau-dementia-msc
Grwp Caban:
Croeso cynnes i aelodau newydd ar draws Cymru
https://dsdc.bangor.ac.uk/caban-group.php.cy
Adnoddau dwyieithog sydd wedi ei casglu ar gyfer rhoi cyngor yn dilyn diagnosis. Cewch fynediad at lawer o'r cyngor roeddwn yn drafod yn y llawlyfrau Grym Mewn Gwybodaeth - Cymru a Pwer mewn Gwybodaeth 2.
https://dsdc.bangor.ac.uk/products-created.php.cy
Dementia Actif
https://www.dementiaactifgwynedd.cymru/index.php
Cadw Cysylltiad
Mae tîm Dementia Actif Gwynedd yn falch o gyflwyno ffilm o berfformiad dawns arbennig iawn. Enw’r ddawns yw “Cadw Cysylltiad” ac fe’i perfformir i gerddoriaeth hyfryd Swan Lake.
Crëwyd Cadw Cysylltiad mewn cydweithrediad â Dawns i Bawb a mae’r ffilm yn serennu pobl sy'n byw gyda dementia, gofalwyr, cyd-aelodau a staff sydd wedi mwynhau dosbarthiadau ar-lein gyda'i gilydd dros y pandemig.
https://fb.watch/kT5nK_Y5Rw/
Information
Author | Y Pod Cyf. |
Organization | Y Pod Cyf. |
Website | - |
Tags |
Copyright 2024 - Spreaker Inc. an iHeartMedia Company
Comments