Gofalwyr Ifanc
Download and listen anywhere
Download your favorite episodes and enjoy them, wherever you are! Sign up or log in now to access offline listening.
Description
Gofalwyr Ifanc: Adnabod a chefnogi plant a phobl ifanc sydd hefo cyfrifoldebau gofalu o fewn ein cymunedau ni Croeso i bodlediad ‘Am Waith Cymdeithasol’ ac i’r drydedd bennod yn y...
show moreCroeso i bodlediad ‘Am Waith Cymdeithasol’ ac i’r drydedd bennod yn y gyfres arbennig o 4 podlediad a ariannir gan Gronfa Cydweithio Cymunedol Prifysgol Bangor.
Prif ffocws y podlediadau yma ydi cydweithio gydag asiantaethau lleol er mwyn codi ymwybyddiaeth o’u waith pwysig yn ymateb i heriau cymdeithasol o fewn ein cymdeithas ni.
Yn y rhifyn yma mae Rhian Lloyd (Darlithydd Gwaith Cymdeithasol), Ffion Wynne Edwards (Swyddog Gofalwyr Ifanc, Cyngor Gwynedd), a Maria Bulkeley a Marti Hordle o Wasanaeth Gofalwyr Ifanc Ynys Môn a Gwynedd (Gweithredu Dros Blant) yn trafod y pwysigrwydd o drio adnabod a chefnogi gofalwyr ifanc o fewn ein cymunedau ni.
Fyddech yn clywed am hunaniaeth pobl ifanc, gwahanol gyfrifoldebau sydd gan ofalwyr ifanc, a sut i gefnogi unigolion i drafod eu sefyllfaoedd personol.
Hefyd fyddech yn clywed am yr elusen Gweithredu Dros Blant a’r math o gefnogaeth sydd ar gael ar draws Ynys Môn a Gwynedd i ofalwyr ifanc.
Mae Gweithredu Dros Blant hefo tudalen facebook @GofalwyrIfancYnysMonGwynedd a Instagram: @afcgofalwyrifanc_mon_a_gwynedd
Information
Author | Y Pod Cyf. |
Organization | Y Pod Cyf. |
Website | - |
Tags |
Copyright 2024 - Spreaker Inc. an iHeartMedia Company
Comments