Rhian Rapsey
Sep 20, 2024 ·
26m 27s
Download and listen anywhere
Download your favorite episodes and enjoy them, wherever you are! Sign up or log in now to access offline listening.
Description
Ai Mrs Rhian Rapsey yw aelod ffyddlonaf Teulu Llanhari? Dyma gyfle i ddod i adnabod un o wynebau cyfarwydd swyddfa’r ysgol. Dechreuodd Mrs Rhian Rapsey yn ddisgybl yn Llanhari ym...
show more
Ai Mrs Rhian Rapsey yw aelod ffyddlonaf Teulu Llanhari? Dyma gyfle i ddod i adnabod un o wynebau cyfarwydd swyddfa’r ysgol.
Dechreuodd Mrs Rhian Rapsey yn ddisgybl yn Llanhari ym 1983 ac roedd ymysg y criw cyntaf i sefyll yr arholiadau TGAU ym Ml.11 ym 1988. Wedi cyfnod byr yn y Coleg, dychwelodd i Lanhari ym mis Hydref 1989 ac ymunodd â thîm y swyddfa ac mae hi yma o hyd! Mrs Rapsey - nyrs yr ysgol, ysgrifenyddes y Tîm Arwain, gweinyddwraig o fri a’n ffrind dibynadwy ni oll.
Diolch i Carys a Gwenno am yr holi gofalus ac i Mrs Rapsey am roi o’i hamser i rannu ei phrofiadau a’r straeon diddorol.
Ydych chi’n gyn ddisgybl yn Ysgol Llanhari? A fu eich mab neu ferch yn Ysgol Llanhari? Ydych chi’n lleol i Lanhari ac oes gennych chi ddiddordeb mewn addysg Cymraeg?
Eleni mi fydd ysgol Llanhari yn dathlu ei phen-blwydd yn 50.
Trwy wrando ar bodlediad Llwybrau Llanhari, gobeithio y cewch chi flas ar y profiadau, anturiaethau, a llwybrau bywyd gwahanol aelodau o deulu Llanhari. Yma cewch glywed hanesion ddoe a heddiw yr ysgol yng nghwmni disgyblion presennol yr ysgol.
show less

Information
Author | Y Pod Cyf. |
Organization | Y Pod Cyf. |
Website | - |
Tags |
Copyright 2024 - Spreaker Inc. an iHeartMedia Company