Contacts
Info
Podlediadau diweddaraf CYDAG - Yr Ysgol Sgwrsio
18 NOV 2024 · Cyn haf 2024, cafodd Trystan ei benodi fel Arweinydd Cenedlaethol ADY (yr iaith Gymraeg). Yn y bennod hon byddwn yn trafod ei rôl newydd a phopeth arall o dan yr ymbarél anghenion dysgu ychwanegol. Cyn hynny, mae Trystan wedi bod yn Bennaeth Cynorthwyol a Chydlynydd ADY yn Ysgol Plas Mawr yng Nghaerdydd.
18 NOV 2024 · Mae Sian yn athrawes yn Ysgol Tywyn, Ynys Mon ond ar secondiad fel athrawes ymgynghorol plant mewn gofal yn yr awdurdod lleol ar hyn o bryd. Mae Sara yn athrawes yn Ysgol Gynradd Kingsland, Caergybi. Yn ychwanegol i’w gwaith arferol, mae Sara a Sian yn hyfforddwyr ar gyfer Trawma Informed Schools, sefydliad sydd yn darparu hyfforddiant ar gyfer y gweithlu addysg ar sut i ddelio gyda disgyblion sydd ag anghenion emosiynol neu broblemau iechyd meddwl. Yn y bennod hon byddwn yn trafod y wyddoniaeth a’r seicoleg tu ôl i’r problemau hyn a beth allwn ni ei wneud i fod o gymorth i rai o’r disgyblion hyn.
18 NOV 2024 · Mae Lee yn Bennaeth yn Ysgol Brynaman. Ar ol eu harolwg yn Hydref 2023, cafodd yr ysgol ei chanmol am sut mae’n nhw’n llwyddo i ysgogi’r disgyblion i siarad Cymraeg. Yn dilyn hyn, mae Estyn wedi rhannu eu harferion mewn astudiaeth achos arfer effeithiol. Wrth gwrs, mae cael disgyblion i siarad Cymraeg yn her mae nifer o ysgolion ledled Cymru yn ei wynebu ar hyn o bryd. Yn y bennod hon byddwn yn trafod yr hyn mae Ysgol Brynaman yn ei wneud i ddatblygu’r Gymraeg i ennill y clod haeddiannol gan Estyn.Â
18 NOV 2024 · Mae Jayne yn Bennaeth yn Ysgol Gymraeg Brynsierfel, Sir Gaerfyrddin ond ar hyn o bryd mae hi ar secondiad yn y consortia lleol fel Ymgynghorydd Strategol y Gymraeg Mewn Addysg. Yn y bennod hon byddwn yn trafod pob dim ynglyn a lles. Ers i Jayne fod yn Bennaeth ar yr ysgol mae sawl astudiaeth achos Estyn wedi cael eu hysgrifennu am y gwaith mae’r ysgol wedi ei wneud i gynyddu lles a’r effaith mae hynny wedi gael ar y plant a’r gymuned ehangach.
18 NOV 2024 · Mae Judith yn nyrs, athrawes ac yn ymgynghorydd iechyd a lles annibynnol sydd wedi gweithio gyda sawl ysgol, dalgylch ac awdurdod i'w hyfforddi, cynghori a’u harwain ar sut i addysgu iechyd a lles. Yn ddiweddar, mae rhan fwyaf o’i hamser yn mynd i gefnogi ysgolion ar addysg cydberthynas a rhywioldeb. Yn y bennod hon, bydd Judith yn trafod sut i addysgu’r Cwricwlwm Cydberthynas a Rhywioldeb a sut i oresgyn rhai o’r heriau mae ysgolion ar draws Cymru yn eu hwynebu.
18 NOV 2024 · Mae Gethin yn ymgynghorydd addysg annibynnol sydd yn gweithio gydag ysgolion cynradd ac uwchradd yma’n Nghymru ac ar draws y ffin i ddatblygu eu cwricwlwm. Cyn iddo fod yn ymgynghorydd, roedd yn athro addysg gorfforol yn Ysgol David Hughes cyn symud ymlaen i weithio i gonsortia’r gogledd. Yn y bennod hon, bydd Gethin yn ein helpu ni ddeall asesu a chynnydd yn y Cwricwlwm i Gymru, pwnc sydd o ddiddordeb i nifer o ysgolion ar hyn o bryd.Â
18 NOV 2024 · Mae Meilir yn bennaeth yn Ysgol Glan Morfa, Caerdydd ac yn gwneud gwaith arbennig i gefnogi nifer o ddisgyblion sydd yn dod o gefndiroedd difreintiedig ac yn llwyddo hyrwyddo a datblygu addysg Gymraeg yn ardal Splott. Yn y bennod hon Mae Meilir yn siarad am ei brofiadau fel Pennaeth ac am arweinyddiaeth yn y sector cynradd yn gyffredinol.
18 NOV 2024 · Mae Laura yn ddarlithydd blynyddoedd cynnar yng Ngholeg y Met Caerdydd, ond cyn hynny, bu’n athrawes ac arweinydd cyfnod sylfaen yn Ysgol Mynydd Bychan, Caerdydd. Yn y bennod hon byddwn yn trafod y blynyddoedd cynnar yn gyffredinol, profiadau Laura o weithio ym mhob oedran o’r cyfnod sylfaen a’r gwaith o addysgu plant yn yr ysbyty.
18 NOV 2024 · Mae Gwyn yn bennaeth profiadol yn Ysgol Croes Atti, Sir y Fflint ac yn gwneud gwaith arbennig i hyrwyddo a datblygu addysg Gymraeg o fewn y sir. Yn y bennod hon mae Gwyn yn siarad am ei brofiadau fel Pennaeth ac am arweinyddiaeth yn y sector cynradd yn gyffredinol.Â
17 NOV 2024 · Mae Sioned yn athrawes yn Ysgol Gynradd Llandegfan, Ynys Môn ond cyn hynny, mae hi wedi bod yn addysgu yn Ysgol yr Hendre Trelew, Patagonia ac yn Ysgol Gymraeg Llundain. Â
Yn y bennod hon mae Sioned yn siarad am ei phrofiadau o addysgu tu hwnt i Gymru a sut mae hynny wedi ei siapio hi fod yr athrawes ydi hi heddiw.Â
Podlediadau diweddaraf CYDAG - Yr Ysgol Sgwrsio
Information
Author | Stiwdiobox |
Organization | Stiwdiobox |
Categories | Education |
Website | www.cydag.cymru |
- |
Copyright 2024 - Spreaker Inc. an iHeartMedia Company